COFNODION CYFARFOD CYNTAF GRŴP TRAWSBLEIDIOL Y CYNULLIAD AR DADAU A THADOLAETH
Cynhaliwyd yn Ystafelloedd Seminar, Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd
Dyddiad – Dydd Mercher 6 Gorffennaf rhwng 12.00 a 13.00
Yn bresennol
Mark Isherwood AC – Cadeirydd dros dro
Neil McEvoy AC
Paul Apreda
Anne O’Regan
Y Fonesig Helen Lloyd Jones
Lee Price
Anthony George
Robert Bunce
Andrew Frary
AGENDA
1. Croeso a chyflwyniadau – Mark Isherwood AC
2. Aelodaeth ac ethol swyddogion
Nodwyd fod aelodaeth y Grŵp Trawsbleidiol ar hyn o bryd yn cynnwys Aelodau'r Cynulliad o dair plaid sef Mark Isherwood AC (Ceidwadwyr Cymreig – Gogledd Cymru), Michelle Brown (UKIP – Gogledd Cymru) a Neil McEvoy (Plaid Cymru - Canol De Cymru).
Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol. Etholwyd Mark Isherwood yn unfrydol ac yn ddiwrthwynebiad.
Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Ysgrifennydd. Etholwyd Paul Apreda yn unfrydol ac yn ddiwrthwynebiad.
3. Yr ysbrydoliaeth ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol a’i ddiben
Roedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer creu’r Grŵp Trawsbleidiol yn gysylltiedig â’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol a gadeirir gan David Lammy AS (Llafur-Tottenham). Roedd adborth gan y tadau a oedd wedi cyfrannu i arolygon Tadau Cymru yn 2015 a 2016 yn tynnu sylw at nifer o faterion yn ymwneud ag ymgysylltu â thadau a chynnwys tadau a ffigurau tadol ym mywydau’r plant y maent yn gofalu amdanynt – yn enwedig pan nad yw’r tadau hyn yn byw gyda'u plant drwy’r amser. Y gobaith oedd y byddai’r grŵp trawsbleidiol, drwy godi ymwybyddiaeth o'r problemau sy'n wynebu tadau, yn gallu cyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygiad polisïau a mentrau sy'n gyfeillgar i dadau gan gyrff statudol a'r trydydd sector.
4. Lleisiau’r tadau – sylwadau o arolwg Tadau Cymru
Darllenwyd amrywiaeth o sylwadau o arolwg Tadau Cymru 2016 a oedd yn nodi rhai o'r anawsterau sy’n wynebu tadau yng Nghymru.
Roedd y tadau a gyfrannodd i’r arolwg hefyd yn bresennol a gwnaethant siarad yn rymus am eu profiadau. Nodwyd fod angen gwneud rhagor o waith i chwilio am straeon llwyddiannus o arfer da y gellid eu defnyddio i hyrwyddo cynnwys mwy ar dadau gan wasanaethau statudol.
5. Gwaith y Grŵp Trawsbleidiol yn y dyfodol
· meysydd i'w hystyried – canllawiau ar arfer Cyfrifoldeb Rhiant, cofrestru genedigaeth ar y cyd gorfodol, casglu data am ymgysylltiad tadau gan wasanaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Gwaith i nodi a gwrthsefyll Dieithriwch Rhieni
· prosiectau ymchwil i’w hystyried – yr arfer gorau o ran ymgysylltu â thadau i gael ei nodi
· cysylltiadau â’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Dadolaeth – cysylltiad i’w wneud â’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol drwy ei Ysgrifenyddiaeth, a ddarperir gan yr elusen Gweithio gyda Dynion.
· ystyriaeth i gael ei roi i nodi siaradwyr gwadd posibl ar gyfer cyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol yn y dyfodol - o bosibl o Rwydwaith Tadau yr Alban sydd wedi cael llwyddiant mawr gyda Blwyddyn y Tad 2016
Gyda thristwch y nododd y Grŵp Trawsbleidiol farwolaeth David Drysdale, sylfaenydd Rhwydwaith Tadau yr Alban. Yr oedd David yn ffigur ysbrydoledig a gyfrannodd lawer i hyrwyddo cyfranogiad cadarnhaol tadau ym mywydau eu plant. Bydd colled fawr ar ei ôl.
Daeth y cyfarfod i ben am 12.50pm
Dyddiad y cyfarfod nesaf i gael ei drafod gan yr Aelodau a'i ddosbarthu cyn gynted â phosibl
Cadarnhaf fod hwn yn gofnod cywir o gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol
Mark Isherwood AC